Cefndir a Diben
‘Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor’ (“CTRS”) yw'r dulliau a ddefnyddir gan awdurdodau lleol yng Nghymru i roi cymorth i aelwydydd ar incwm isel er mwyn iddynt allu talu eu treth gyngor.
Rheolir gweithrediad CTRS yng Nghymru gan Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (y cyfeirir atynt ar y cyd fel "Rheoliadau CTRS 2013").
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau CTRS 2013 i uwchraddio ffigurau penodol a ddefnyddir i gyfrifo hawl ceisydd i ostyngiad o dan CTRS.
Mewn Datganiad Ysgrifenedig ar 6 Rhagfyr 2022 gan y Gweinidog Cllid a Llywodraeth Leol, dywedodd Rebecca Evans AS y bydd hyn yn:
[…] sicrhau bod y cynllun ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 yn adlewyrchu’r cynnydd mewn costau byw [ac] yn helpu i sicrhau bod y 270,000, bron, o aelwydydd ag incwm isel ledled Cymru sy’n dibynnu ar y cymorth hwn yn parhau i gael yr hawl honno drwy’r cynllun.
Yn ogystal, mae’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth i sicrhau nad yw unrhyw wladolion o Wcráin sydd wedi cael caniatâd i ddod i mewn i’r DU neu i aros ynddi yn gymwys i gael eu cynnwys mewn CTRS awdurdod lleol, a byddant yn gymwys i gael gostyngiad os ydynt yn bodloni gofynion eraill y CTRS.
Y weithdrefn
Cadarnhaol drafft.
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Nodir y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Mae rheoliadau 4(4) a 12(4) yn mewnosod, yn eu trefn, is-baragraff a pharagraff ‘o’ newydd, yn y ddwy set o reoliadau yn Rheoliadau CTRS 2013.
Yn y testun Cymraeg, nid yw'r cyfieithiad yn llwyddo'n llawn gan fod y testun a fewnosodwyd yn anghyson â'r ddarpariaeth bresennol.
Dylai geiriau agoriadol is-baragraff/paragraff 'o' newydd nodi 'yn berson’ yn hytrach na ‘person', er mwyn bod yn gyson ag is-baragraffau/paragraffau presennol 'm' ac 'n'.
2. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.
Mae rheoliad 13 yn ceisio diwygio paragraff 20 o’r Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (y “Rheoliadau Diofyn”).
Mae anghysondeb rhwng y testun Cymraeg a'r testun Saesneg yn rheoliad 13(2).
Wrth nodi’r testun i’w ddisodli yn y Rheoliadau Diofyn, mae’r testun Saesneg yn cyfeirio at “[…] paragraph (2)”, ac mae’r testun Cymraeg yn cyfeirio at “[…] is-baragraff (2)”.
Ar sail y geiriad yn y Rheoliadau Diofyn, mae testun Cymraeg y Rheoliadau yn gywir.
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Pwynt Craffu Technegol: Drafftio Diffygiol
Pwynt 1:
Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno y dylai geiriau agoriadol is-baragraff/paragraff newydd ‘o’ yn nhestun Cymraeg y diwygiadau a wneir gan reoliadau 4(4) a 12(4) ddatgan ‘yn berson’ yn hytrach na ‘person’. Gan fod y gwall o natur dechnegol, caiff ei gywiro cyn i’r offeryn gael ei wneud.
Pwynt 2:
Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno y dylai rheoliad 13(2) o’r testun Saesneg gyfeirio at “sub-paragraph (2)”. Gan fod y gwall o natur dechnegol, caiff ei gywiro cyn i’r offeryn gael ei wneud.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
21 Rhagfyr 2022